Cymraeg
Rydym yn gwerthu hen bethau o wledydd Prydain ond daw y rhan fwyaf ohonynt o Orllewin Cymru. Os ydych yn prynu hen bethau am y tro cyntaf neu os ydych yn gasglwr brofiadol fe wyddoch pa mor anodd yw cael hyd i ddodrefn o ansawdd a safon dda.
Os ydych yn atgyweirio hen dy fferm neu fwthyn neu efallai yn addurno fflat yn Nghaerdydd neu Llundain neu os ydych am gasglu hen bethau diddorol edrychwn ymlaen at roi help llaw i chi.
Mae pob un o’r eitemau ar y tudalennau hyn yn unigryw ac oherwydd eu hoedran mae nifer ohonynt yn dangos ôl defnyddio dros y blynyddoedd. Teimlwn fod yn well eu gadael i fod yn hytrach na thrwsio ac atgyweirio. Byddwn yn atgyweirio cyn lleied a phosib a dim ond os yw yn angenrheidiol gwneud hynny..jpg)
Gallwn ddanfon i unrhyw fan. O fewn y D.U. byddwn yn danfon y rhan fwyaf o’r celfi yn bersonol. Anfonir yr eitemau bychain drwy’r Post neu gyda Post Brys. Gallwn anfon amcangyfrif o’r gôst i chi. Cewch adroddiad llawn o waith atgyweirio cyn i chi brynu ac hefyd rhestrir y gwaith ar eich derbynneb.
Lleolir ‘Tim Bowen Antiques’ yng nghartref Tim a Betsan Bowen ym mhentre glan môr Glan y Fferi ger Caerfyrddin yn Ngorllewin Cymru. Maent yn arbenigo mewn gwerthu dodrefn gwledig ynghyd â chelf gwerinol, crochenwaith gwledig, gwaith spwng, sampleri, cwiltiau a charthenni cymreig.
Sefydlodd Tim y busnes wedi iddo dreulio 13 blynedd fel prentis yn gweithio i Richard Bebb yng Nghydwely, Gorllewin Cymru, awdurdod blaenllaw ar ddodrefn derw cymreig a chelf gwerinol. Cyn hynny gweithiau Tim gyda chwmni arwerthu yng Ngorllewin Cymru.
Mae Tim wrth ei fodd yn trafod gwreiddiau a chrefftwaith steil arbennig o gadair neu fwrdd ond mae hefyd yn mwynhau a gwerthfawrogi symlrwydd creadigol dodrefn gwledig ynghyd â chelf y crefftwr gwerinol.
Yn ddiweddar mae Tim a Betsan wedi atgyweirio eu ty yn Sir Gaerfyrddin, sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, ac maent wedi ei addurno mewn dull wledig gymreig. Gallwch alw yno i weld unrhyw eitem sydd ar y wefan ond cofiwch ffonio gyntaf os gwelwch yn dda.
Caiff y wefan ei newid yn gyson felly cofiwch ffonio neu anfonwch e-bost i gadarnhau fod eich dewis yn dal ar gael.
|